Skip to main content
Hafan
Amgueddfa Lloyd George Museum
  • Hafan
  • Casgliadau
  • Addysg
  • Lloyd George
    • Straeon Byr
    • Y Bedd
    • Bwthyn Highgate
    • Hanes
  • Ymweld
  • Cyswllt
  • Cyfeillion

Follow

  • facebook
  • twitter
  • linkedin

Social Bookmarks (Footer top)

Hafan

Tel: (01766) 522 071 | Ebost: amgueddfalloydgeorge@gwynedd.llyw.cymru

  • English
  • Hafan
  • Casgliadau
  • Addysg
  • Lloyd George
    • Straeon Byr
    • Y Bedd
    • Bwthyn Highgate
    • Hanes
  • Ymweld
  • Cyswllt
  • Cyfeillion
  • The Museum gates, which are open
    Amgueddfa Lloyd George Museum
  • Image of objects from the collection - ceramics
    Amgueddfa Lloyd George Museum
  • A view of outside the museum showing a stonework building, Highgate cottage
    Highgate
  • Inside the museum featuring The Funeral television screen
    Amgueddfa Lloyd George Museum
  • Inside the museum - first world war cabinet
    Amgueddfa Lloyd George Museum

Ymweld ag Amgueddfa Lloyd George

O’R GWEITHDY I’R BYD - MAE GWADDOL PENDERFYNIADAU LLOYD GEORGE YN PARHAU I SIAPIO’R DYFODOL. DEWCH I DDARGANFOD.

O’i wreiddiau ym Mwthyn Highgate i’w rôl ganolog fel un o brif weinidogion Prydain yn yr Ugeinfed Ganrif, mae dylanwad Lloyd George yn parhau i effeithio gwleidyddiaeth, cymdeithas a hawliau cymdeithasol hyd heddiw. Yma gallwch archwilio’r casgliadau, y dogfennau, y cofroddion a’r llefydd sy’n dangos sut gwnaeth ei syniadau a’i benderfyniadau lunio Cymru, Prydain a’r byd ac sut y maent yn parhau i ysgogi trafodaeth a democratiaeth fodern.

Dewch i ddarganfod bywyd a threftadaeth un o wleidyddion mwyaf dylanwadol y 20fed ganrif - David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain rhwng 1916 a 1922. Mae’r amgueddfa unigryw hon yn cynnig profiad trochi sy’n dwyn hanes yn fyw drwy greiriau, straeon personol sy’n adrodd hanes ei fagwraeth a’i yrfa eithriadol.

  • Casgliad unigryw o gistiau rhyddfraint, creiriau a chofroddion personol sy’n olrhain ei effaith ar Gymru a’r byd ac yn annog ymwelwyr i ystyried sut mae gwaddol y penderfyniadau hynny yn siapio ein byd heddiw.
  • Camwch yn ôl i oes Fictoria i Highgate, cartref plentyndod Lloyd George, wedi’i ddodrefnu fel yr oedd rhwng 1864 - 1880. (Nid yw Highgate yn hygyrch i gadeiriau olwyn).
  • Gweithdy gwneuthurwr esgidiau ei ewythr wedi’i ail-greu’n ofalus, yn cynnig cipolwg ar ei fagwraeth a’r man lle dysgodd am wleidyddiaeth.
  • Cerddwch i weld ei fedd gerllaw’r Afon Dwyfor, wedi’i ddylunio gan Clough Williams-Ellis - man tawel a hardd i fyfyrio ar eich ymweliad.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Ymweld
tu fewn yr amgueddfa
police helmet
Dysgwch sut daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol

Dysgwch sut daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol oherwydd giât gaeedig yn Llanfrothen a pham bod Lloyd George wedi gwisgo fel gwas yr heddlu i ddianc rhag torf blin yn Birmingham.

Ymweld
  • facebook-f
  • twitter
  • instagram
© 2026 Amgueddfa Lloyd George Museum